Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cyflwyno rhaglenni gyda dull sydd nid yn unig yn hyrwyddo diwylliant Cymru ond sy’n gallu helpu myfyrwyr i sefyll allan.

‘Mae fy Nghymraeg i ddim yn ddigon da.’ 

‘Dwi ddim yn teimlo’n hyderus i wneud gradd gyfan trwy gyfrwng y Gymraeg.’ 

Dau esgus sydd yn cael ei defnyddio yn aml gan fyfyrwyr sydd yn ystyried astudio trwy Gymraeg – ac i feddwl gall hyn arwain at fyfyrwyr i golli allan ar gyfleoedd enfawr.

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ceisio dymchwel ar y meddylfryd yma ac yn ceisio i annog myfyrwyr i siarad Cymraeg yn y brifysgol.

Mae’r brifysgol yn un o wir hyrwyddwyr Cymru.  Wedi eu sefydlu yn bennaf yn y wlad, fel yr unig brifysgol sydd â phedwar campws ar draws de Cymru o Lambed i Gaerfyrddin i Abertawe i Gaerdydd.  Felly gall gynnig profiad y brifysgol gyda charwriaeth Gymreig go iawn. 

Nid ei leoliad yn unig sy’n hyrwyddo Cymru. O addysg i berfformio, mae PCYDDS yn ymfalchïo’n fawr yn y ffaith y gall ddarparu rhai rhaglenni yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg a gyda hyn yn helpu hybu'r iaith Gymraeg yn ei graddedigion. 

Nid dim ond y diwylliant y mae’r brifysgol yn helpu i ffynnu – mae PCYDDS yn helpu dyfodol ei myfyrwyr hefyd, gyda’r gallu i siarad Cymraeg yn wirioneddol yn hyrwyddo cyflogadwyedd.

Hir Oes i’r Iaith

Drwy gynnig ei chyrsiau addysg trwy gyfrwng y Gymraeg mae’r brifysgol yn falch o’i rhan yn hyrwyddo’r iaith ar draws gwahanol feysydd pwnc.  Cymerwch athrawon Cymraeg y dyfodol, er enghraifft, fyddan yn gallu defnyddio’r sgiliau a’r angerdd maen nhw wedi eu datblygu tuag at yr iaith i genedlaethau’r dyfodol, hyn yn sicrhau bod yr iaith yn parhau.

Mae’r brifysgol yn datblygu ei darpariaeth cyrsiau Cymraeg yn barhaus, gan dorri tir wrth wneud hynny.  Mae ei chwrs mwyaf diweddar, theatr gerddorol sydd ar gael yn llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg, yn golygu mai PCYDDS yw’r unig un o’i fath. 

Efallai ei fod yn ymddangos fel ymrwymiad mawr, ond mae PCYDDS wedi gwneud astudio trwy’r Gymraeg mor hawdd a buddiol i fyfyrwyr â phosibl.  Nid yr unig fudd yw ychwanegu at sgiliau myfyrwyr, gall astudio yn y Gymraeg ychwanegu at waledi myfyrwyr hefyd.

Wrth astudio 80< credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg gall myfyrwyr ymgeisio am Brif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sef £1,000 y flwyddyn. Wrth astudio 40< credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg, gall myfyrwyr ymgeisio am yr Ysgoloriaeth Cymhelliant sy'n £500 y flwyddyn.  Mae hefyd gan y brifysgol cyfle i ennill £50 ar gyfer credydau dethol y mae myfyrwyr yn ei gwblhau trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly beth am astudio yn Gymraeg er mwyn hawlio arian am y gwaith fyddech chi'n ei wneud beth bynnag?

Os nad yw myfyrwyr yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud gradd gyfan yn y Gymraeg, gallan nhw astudio yn ddwyieithog.  Gallai hyn fod yn astudio un neu ddau fodiwl trwy gyfrwng y Gymraeg neu gyflwyno gwaith yn unig yn y Gymraeg.

Tu hwnt i'r ystafell ddosbarth

Mae PCDDS yn awyddus i fyfyrwyr elwa o'r gallu i siarad yr iaith Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd prifysgol. Mae amryw o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith, megis cwblhau'r dystysgrif sgiliau iaith sydd ar gael drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr Cymru ennill cymhwyster ychwanegol a gydnabyddir yn Genedlaethol sydd yn hybu cyflogadwyedd.

Mae’r Gymdeithas Gymraeg - Y Gym Gym - yn enghraifft o gyfle llai ffurfiol i ddefnyddio’r Gymraeg.  Mae'r gymdeithas wedi ei sefydlu gyda chymdeithasu yn y Gymraeg fel y rheng flaen, gan gynnwys nosweithiau allan, tripiau rygbi a digwyddiad Phenwythnos y Glas penodol.  Mae’r Gymdeithas yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr cymdeithasu a dod i adnabod myfyrwyr arall y Brifysgol sydd hefyd yn frwdfrydig tuag at yr iaith Gymraeg.

Os ydych eisiau darganfod mwy am ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ewch i'r wefan Dewiswch Eich Stori Gymraeg | University of Wales Trinity Saint David (ydds.ac.uk)