South Wales Guardian - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Carmarthenshire

I'm looking for celebrations
Death Notice

David Huw Edwards

Published on 10/01/2024

EDWARDS David Huw Yn dawel ar 26 Rhagfyr 2023 yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, bu farw Huw Edwards, Rhodfa Bryn Rhos, Glanaman. Gŵr cariadus a thyner Helen, tad gwylaidd ac annwyl Gwenllian a'i fab-yng-nghyfraith Joseph, Datcu anwesol Osian Huw a brawd triw John a'i chwaer-yng-nghyfraith Anita. Brodor o Gwmllynfell yn wreiddiol yn fab y diweddar Glyn a Nanno Edwards (Civic Garage). Cynhelir yr angladd Ddydd Gwener 12 Ionawr ym Methesda, Capel y Bedyddwyr, Glanaman. Gwasanaeth cyhoeddus yn y capel am 11 o'r gloch; claddedigaeth breifat i ddilyn. Blodau yn unig gan y teulu. Pe dymunir, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty'r Tywysog Philip trwy law Ymgymerwyr Griffiths Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE. Ffôn: (01269) 593637.

Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.