South Wales Guardian - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Carmarthenshire

I'm looking for celebrations
Death Notice

Ceridwen Eileen Rees

Published on 20/12/2023

REES Ceridwen Eileen Yn dawel ddydd Sadwrn, Rhagfyr 9fed yn Ysbyty Treforys hunodd Eileen o Heol y Garn, Garnswllt, Rhydaman. Priod annwyl y diweddar Ryan, mam gariadus Arwyn a'i gymar Louise, mamgu gariadus Sioned, Catrin a Dafydd. Gweler ei cholled yn fawr iawn. Angladd ddydd Sadwrn, Rhagfyr 23ain, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Noddfa, Garnswllt am 11:00 y bore. Cleddir ym mynwent y capel. Dim blodau os gwelwch yn dda. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at "Cronfa Mynwent Noddfa" (sieciau yn ddaladwy i "Noddfa Garnswllt Cemetery" os gwelwch yn dda) drwy law Hywel Griffiths a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman, SA18 2HE. Tel: (01269) 593637.

Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.