DRAMAU - Bydd Cwmni Cudyll Coch yn perfformio dwy gomedi fer yn Neuadd yr Eglwys Llandyfan ar Nos Wener Tachwedd 8fed am 7.30 y.h. Tocynnau £4. Elw at Sioe Trap (01558 823213 /823265)

GWELLHAD BUAN - Dymunwn wellhad buan i Linda James (Carregyrogof gynt) Eric Jones (Cysgod y Coed) a Evan Hopkins(Cwmbassett).

PROFEDIGAETH - Gyda thristwch clywsom am ddarfod Maureen Rowlands, Penrhiw ar ol cystudd hir ac anodd. Roedd yn wraig hawddgar a dawnus dros ben. Bu am flynyddoedd yn arweinydd gweithgar iawn gyda Chlwb Ffermwyr Ifainc Llandyfan a'i dylanwad yn fawr ar aelodau y cyfnod. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf a'i merched Irene, Mandy a'r teulu oll.

HARVEST SUPPER - The supper is held at Llandyfan church hall on Friday, October 4 from 7pm. Tickets, £5 include entertainment by Fiddlebox, all welcome.