Bydd digwyddiad rhithwir am ddim yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 16 Mawrth i ddarparu cymorth hanfodol i bobl sy'n chwilio am gyfleoedd gwaith yng ngorllewin Cymru.

Bydd y digwyddiad, o'r enw Cyfleoedd Gorllewin Cymru, yn cael ei gynnal ar-lein rhwng 10am a 12pm, ac mae'n ddigwyddiad partneriaeth rhwng Cymru'n Gweithio (a ddarperir gan Gyrfa Cymru), yr Adran Gwaith a Phensiynau a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru.

Bydd y bobl sy'n mynychu'r digwyddiad yn gallu pori drwy amrywiol gyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant gwych sydd ar gael ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Bydd y digwyddiad yn galluogi ceiswyr gwaith i siarad yn uniongyrchol â'r cyflogwyr i ddarganfod mwy am y swyddi gwag sydd ar gael. Bydd sefydliadau cymorth cyflogaeth a darparwyr dysgu a hyfforddiant wrth law i ddarparu gwybodaeth am y cymorth y gallwch fanteisio arno i'ch helpu i gael un o'r swyddi.

South Wales Guardian:

Mae dros 40 o sefydliadau wedi cofrestru i fynychu’r digwyddiad gan gynnwys Fieldbay, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cymunedau am Waith.

Mae'r digwyddiad rhithwir yn dilyn llwyddiant Cyfleoedd Gogledd Cymru a gynhaliwyd ym mis Ionawr, y cymerodd dros 5,000 o bobl ran ynddo yn fyw, gyda 6,700 arall yn gwylio'r digwyddiad ar gais. 

Dywedodd Pennaeth Cyngor Cyflogaeth Cymru'n Gweithio, Mandy Ifans: “Mae cyfyngiadau Covid-19 yn dal i atal unrhyw ffeiriau gyrfaoedd neu ddigwyddiadau cyflogwyr rhag cael eu cynnal wyneb-yn-wyneb, ac mae ceiswyr gwaith a chyflogwyr yn dibynnu ar rith-sianeli i ddod o hyd i swyddi a llenwi swyddi gwag.

“Rydym yn falch iawn o allu cynnal y math hwn o ddigwyddiad ar-lein er mwyn parhau i ddarparu cymorth mawr ei angen i'r rhai sy'n chwilio am waith yn ystod y pandemig.

“Rydym yn gobeithio, drwy ddod â chyflogwyr a cheiswyr gwaith ynghyd, y gallwn helpu i wella rhagolygon cyflogaeth i bobl yng ngorllewin Cymru mewn cyfnod anodd.”

Meddai Matthew Bennett, Uwch Reolwr Cysylltiadau Allanol o’r Adran Gwaith a Phensiynau: “Mae hwn yn gyfle cyffrous na ddylai neb ei golli. Drwy ddod â cheiswyr gwaith a chyflogwyr ynghyd ar lwyfan digidol, gallwn ganolbwyntio gyda’n gilydd ar gyfateb sgiliau a chyfleoedd swyddi.

“Mae cynllun “Plan for Jobs” yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys amrywiaeth o raglenni gan y llywodraeth ac mae rhai ohonynt yn cynnig cymhellion ariannol i gyflogwyr sy’n recriwtio. Mae rhagor o wybodaeth ar www.gov.uk.

“I’r rhai sy’n ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn, bydd yn gyfle i gael sgyrsiau gwych a bydd cynigion swyddi ar gael i’r ymgeiswyr cywir.”

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn cliciwch yma neu ewch i'r dudalen digwyddiadau ar wefan Cymru'n Gweithio.

Ar gael i unrhyw un dros 16 oed, mae Cymru'n Gweithio yn darparu gwasanaeth cyngor a chyfarwyddyd cyflogadwyedd un-i-un wedi'i deilwra, sy'n cefnogi pobl ledled Cymru i chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, hyfforddi ac uwchsgilio ynghyd â darparu cymorth ar ôl colli swydd.

South Wales Guardian:

I gael cymorth a chyngor uniongyrchol gan Cymru'n Gweithio, ffoniwch y llinell ffôn bwrpasol 0800 028 4844, e-bostiwch cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru, neu cysylltwch â'r tîm drwy negesydd Facebook neu sgwrs fyw, o 8am - 8pm ddydd Llun i ddydd Iau a 9am - 4.30pm ar ddydd Gwener.