People in Carmarthen who are looking for work, considering a career change or exploring opportunities are being encouraged to access free support at their local Careers Wales centre.
A team of friendly Working Wales careers advisers and employability coaches are based at the careers centre at 10 Elliston Terrace, to provide impartial and personalised support.
The Working Wales service is delivered by Careers Wales, and can help by offering:
- Free and impartial careers advice and guidance
- CV and application support
- Job interview preparation
- Support with finding job and apprenticeship opportunities
- Free career reviews
- Specialist support for those facing redundancy.
Booking an appointment at the centre provides an opportunity to discuss career options and receive tailored support with taking the next step, whether someone has a clear goal or is unsure where to start.
Liudmyla Kazmiruk, who lives in Carmarthen, found a new direction after turning to Working Wales for support.
The 47-year-old moved to Wales from Ukraine with her family, and had been working as a teaching assistant when she suddenly lost her role.
Liudmyla made an appointment at the Carmarthen Careers Wales centre, where she met careers adviser Lara Bagagiolo. Together, they explored what she wanted from her next job and how work could fit around her family life.
“Lara was very friendly and supportive. It was easy to talk to her,” she said.
“She asked questions that made me think differently. I could see my situation from another side and understand what I really needed.”
Lara helped Liudmyla explore other sectors and find roles that offered the flexibility she was looking for. Together, they found a vacancy at a local shop.
“I applied after our meeting and now I’m working there. I enjoy my job and feel more confident,” she said.
Liudmyla now encourages others facing a setback to keep looking for new opportunities.
“Never stop. Even if you think you can’t, keep going and searching. In the end, you will find what you need.”
Wendy Williams, the operational development manager for Carmarthen at Careers Wales, said: “If you’re unsure where to start, please get in touch with us. Whether you’re looking for a job, have experienced redundancy, thinking about a change or returning to work, we can help you explore your options and plan your next steps.
“We’d encourage anyone in Carmarthen who would like support to contact us and book an appointment. Our friendly team are ready to welcome you!”
Carmarthen Careers Centre is open Tuesday to Thursday, from 9am to 4.30pm. Support is also available over the phone or digitally.
To book an appointment or find out more, call 0800 028 4844 or visit www.careerswales.gov.wales. Calls are welcome in Welsh and English.
Cymorth gyrfa am ddim ar gael yng Nghaerfyrddin
(Image: Career Wales)
Mae pobl yng Nghaerfyrddin sy'n chwilio am waith, yn ystyried newid gyrfa neu'n archwilio cyfleoedd yn cael eu hannog i gael cymorth am ddim yn eu canolfan Gyrfa Cymru leol.
Mae tîm o gynghorwyr gyrfa a hyfforddwyr cyflogadwyedd cyfeillgar Cymru'n Gweithio wedi'u lleoli yn y ganolfan gyrfa yn 10 Teras Elliston, i ddarparu cymorth personol diduedd.
Darperir gwasanaeth Cymru'n Gweithio gan Gyrfa Cymru, a gall helpu drwy gynnig:
- Cyngor a chyfarwyddyd gyrfa diduedd am ddim
- Cymorth gyda CVs a cheisiadau am swyddi
- Paratoi ar gyfer cyfweliad am swydd
- Cymorth i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a phrentisiaeth
- Adolygiadau gyrfa am ddim
- Cymorth arbenigol i’r rhai sy’n wynebu colli swydd.
Mae trefnu apwyntiad yn y ganolfan yn rhoi cyfle i drafod opsiynau gyrfa a chael cefnogaeth wedi'i theilwra i gymryd y cam nesaf, p'un a oes gan rywun nod clir neu mae'n ansicr ble i ddechrau.
Daeth Liudmyla Kazmiruk, sy'n byw yng Nghaerfyrddin, o hyd i gyfeiriad newydd ar ôl troi at Cymru'n Gweithio am gymorth.
Symudodd Liudmyla, 47 oed, i Gymru o Wcráin gyda'i theulu, ac roedd wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu pan gollodd ei rôl yn sydyn.
Gwnaeth apwyntiad yng nghanolfan Gyrfa Cymru Caerfyrddin, lle cyfarfu â'r cynghorydd gyrfa Lara Bagagiolo. Gyda'i gilydd, gwnaethon nhw edrych ar yr hyn yr oedd hi’n ei ddymuno o'i swydd nesaf a sut y gallai gwaith ffitio o amgylch ei bywyd teuluol.
“Roedd Lara yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Roedd hi’n hawdd siarad â hi,” meddai hi.
“Gofynnodd gwestiynau a wnaeth i mi feddwl yn wahanol. Roeddwn i’n gallu gweld fy sefyllfa o safbwynt gwahanol, a deall beth oedd gwir ei angen arna i.”
Helpodd Lara Liudmyla i edrych ar sectorau eraill a dod o hyd i rolau a oedd yn cynnig yr hyblygrwydd yr oedd hi'n chwilio amdano. Gyda'i gilydd, daethon nhw o hyd i swydd wag mewn siop leol.
“Ar ôl ein cyfarfod fe wnes i gais, a nawr rwy’n gweithio yno. Rwy'n mwynhau fy swydd ac yn teimlo'n fwy hyderus,” meddai.
Mae Liudmyla bellach yn annog pobl eraill sy'n wynebu rhwystr i barhau i chwilio am gyfleoedd newydd.
“Peidiwch byth ag ildio. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl na allwch chi barhau, daliwch ati i chwilio. Yn y diwedd, fe ddewch chi o hyd i’r hyn y mae ei angen arnoch chi.”
Dywedodd Wendy Williams, rheolydd datblygu gweithredol Gyrfa Cymru yng Nghaerfyrddin: “Os ydych chi’n ansicr ble i ddechrau, cysylltwch â ni. P'un a ydych chi'n chwilio am swydd, wedi profi diswyddiad, yn ystyried newid neu rydych chi am ddychwelyd i'r gwaith, gallwn ni eich helpu chi i archwilio opsiynau a chynllunio'ch camau nesaf.
“Byddem yn annog unrhyw un yng Nghaerfyrddin sydd eisiau cymorth i gysylltu â ni a threfnu apwyntiad. Mae ein tîm cyfeillgar yn barod i'ch croesawu!”
Mae Canolfan Gyrfa Caerfyrddin ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau, o 9am i 4.30pm. Mae cymorth hefyd ar gael dros y ffôn neu'n ddigidol.
I drefnu apwyntiad neu i gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 028 4844 neu ewch i www.gyrfacymru.llyw.cymru. Croesewir galwadau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
(Image: Career Wales)
Share