Advertising Feature

Gall ein tîm Gorllewin Cymru eich helpu i ddechrau neu dyfu eich busnes

Dywedwch helo wrth eich tîm lleol ym Manc Datblygu Cymru. Rydyn ni yma ac yn barod i helpu <i>(Image: Ian Cooper)</i>
Dywedwch helo wrth eich tîm lleol ym Manc Datblygu Cymru. Rydyn ni yma ac yn barod i helpu (Image: Ian Cooper)
This article is brought to you by our exclusive subscriber partnership with our sister title USA Today, and has been written by our American colleagues. It does not necessarily reflect the view of The Herald.

Mae tîm cyfeillgar Banc Datblygu Cymru yn darparu'r cyllid sydd ei angen ar bobl leol i ddechrau a thyfu busnesau llwyddiannus ledled Sir Gaerfyrddin a De-orllewin Cymru.

O ariannu busnesau newydd i drefnu cyllid ar gyfer datblygwyr eiddo masnachol a phreswyl, mae ein tîm yn brofiadol iawn ac yn awyddus i helpu gyda benthyciadau masnachol a buddsoddiad ecwiti sy’n amrywio o £1,000 i £10 miliwn.

Matthew Watkins, Philip Mann and Richard Phillips, cyfarwyddwr Mentrus DevelopmentsMatthew Watkins, Philip Mann and Richard Phillips, cyfarwyddwr Mentrus Developments (Image: Ian Cooper) Dyma rai o’r busnesau lleol y mae’r Banc Datblygu wedi’u cefnogi dros y misoedd diwethaf:

  • Mae Afon Engineering yn fusnes peirianneg, saernïo a pheiriannu sydd wedi'i leoli yn Llansamlet. Mae wedi cael ei redeg gan yr un teulu ers dros 40 mlynedd ond erbyn hyn mae ganddo berchnogion newydd sydd wedi cymryd y cwmni ymlaen yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn gan y Banc Datblygu.
  • Cwblhaodd Westward Energy Services, sydd wedi’i leoli ym Mhontardawe, bryniant gan reolwyr gan alluogi’r cyn-berchnogion i ymddeol ar ôl 25 mlynedd mewn cytundeb a oedd wedi’i ariannu’n rhannol gan fenthyciad o £775,000 gan y Banc Datblygu.
  • Mae Mentrus Developments yn datblygu cam dau o 'Maes y Teirw', datblygiad preswyl o 21 o gartrefi ecogyfeillgar ar safle'r hen ganolfan bridio gwartheg ger Caerfyrddin gyda chymorth benthyciad saith ffigur gan y Banc Datblygu.

Ai chi fydd nesaf? Ewch i bancdatblygu.cymru /lleol neu ffoniwch y tîm ar 0800 587 4140 i gael gwybod mwy. Maen nhw'n barod i helpu!

Get involved
with the news

Send your news & photos