Brought to you by
CAREERS WALES
Mae Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd (3 i 8 Mawrth) yn dychwelyd yr wythnos hon, gan arddangos yr effaith sy’n newid bywydau y mae cyfarwyddyd gyrfaoedd ac adnoddau addysgol rhad ac am ddim yn ei gael ledled y DU.
Mae Katherine Hooper yn rhannu ei stori am sut y gwnaeth cyfarwyddyd gyrfaoedd gan Cymru’n Gweithio ei helpu i ddechrau o’r newydd mewn gyrfa ym maes technoleg ar ôl colli swydd yn annisgwyl.
Roedd Katherine, sy’n 35 oed ac yn byw yn Abertawe, wedi treulio bron i naw mlynedd yn gweithio fel ymchwilydd ar brosiectau ynni adnewyddadwy mewn prifysgol cyn colli ei swydd yn 2023.
Yn ansicr am ei chamau nesaf, dechreuodd ymchwilio i opsiynau gyrfa ar-lein a daeth o hyd i Cymru’n Gweithio. Trefnodd gyfarfod â chynghorydd gyrfa, Lindsey Roberts.
Dywedodd Katherine: “Roeddwn i’n eitha nerfus, ond roedd Lindsey yn gefnogol iawn. Gwnaeth hi fy helpu i gymryd cam yn ôl i werthuso fy opsiynau.”
Daeth i’r amlwg drwy cwis gyrfa a thrafodaethau manwl â Lindsey y gallai maes technoleg fod yn addas iawn ar gyfer sgiliau Katherine.
Wedi'i chalonogi gan hyn, dechreuodd Katherine ddysgu sut i godio ar ei phen ei hun. Awgrymodd Lindsey hefyd y dylai fynd i ddigwyddiad ‘Merched mewn Technoleg’ yn y DVLA i gael cipolwg ar y diwydiant.
Cofiodd Katherine: “Roeddwn i’n nerfus i ddechrau, ond roedd y digwyddiad yn agoriad llygaid. Dysgais i am ddatblygu meddalwedd a darganfyddais i gyfleoedd doeddwn i ddim wedi’u hystyried o’r blaen.”
Yn y digwyddiad, dysgodd Katherine am sesiwn hyfforddi codio dwys o’r enw Code First Girls. Cofrestrodd ar y cwrs, gan ennill y sgiliau technegol oedd eu hangen i bontio i yrfa newydd. Erbyn diwedd 2023, roedd hi’n barod i wneud cais am rolau datblygu meddalwedd.
Er gwaethaf wynebu cael ei gwrthod am swyddi, roedd Katherine yn parhau i fod yn benderfynol. Cyflwynodd Lindsey hi i Aaron Jenkins, hyfforddwr cyflogadwyedd yn Cymru’n Gweithio, a’i helpodd i baratoi ar gyfer cyfweliadau yn y DVLA.
Dywedodd Katherine: “Roedd yr adborth a gefais ar ôl fy nghyfweliad cyntaf yn amhrisiadwy. Ches i ddim y swydd gyntaf, ond fe helpodd fi i baratoi ar gyfer yr ail gyfweliad – a llwyddais i gael honno.”
Yn 2024, dechreuodd Katherine ei rôl newydd fel peiriannydd datblygu cod ar gyfer profi meddalwedd yn y DVLA.
“Mae'n anhygoel gwneud rhywbeth rydw i wir yn ei fwynhau. Weithiau mae’n rhaid i mi fy atgoffa fy hun i beidio â gorweithio oherwydd rydw i’n frwd iawn dros fy swydd.”
Wrth fyfyrio ar ei thaith, anogodd Katherine eraill sy’n wynebu colli eu swyddi i geisio cymorth: “Peidiwch â rhoi’r gorau iddi. Daliwch ati, hyd yn oed pan fydd hi’n teimlo fel petaech chi ddim yn gwneud unrhyw gynnydd. Defnyddiwch yr holl adnoddau sydd ar gael i chi a chredwch yn eich gallu i addasu a thyfu.”
Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei darparu gan Gyrfa Cymru a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfarwyddyd gyrfaoedd a chymorth cyflogadwyedd i bobl 16 oed a hŷn.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Cymru’n Gweithio, a sut i gael cymorth gyrfa, ewch i wefan Cymru’n Gweithio, ffoniwch am ddim ar 0800 028 4844, siaradwch â chynghorydd drwy we-sgwrs, neu anfonwch neges e-bost i cymrungweithio@gyrfacymru.llyw.cymru.
Share