THOMAS Ian Cerith Ar ddydd Mawrth, Ionawr 15fed yn ei gartref, Ian o Heol y Mynydd, Brynaman. Priod arbennig Nia, tad annwyl Arria Fflur, mab bythgofiadwy Cerith a Sandra, brawd ffyddlon Kristian a Rhian Wyn, mab yng nghyfraith parchus Dewi a Margaret, Elaine a Tony, wyr cariadus Morlais a Betty, Albert a'r ddiweddar Jenny a brawd yng nghyfraith hoffus Ann Marie, Gareth, Andrew a Stacey. Angladd ar ddydd Sadwrn, Ionawr 26ain. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Gibea, Brynaman am 11.00 y bore. Cleddir ei weddillion ym mynwent y capel. Blodau'r teulu'n unig. Ymholiadau pellach i Keith Morgan a Hywel Griffiths, Trefnwyr Angladdau 01269 822179/593637