MORGAN Rita Yn dawel ar Ddydd Sul, Tachwedd 4ydd yn Ysbyty Treforys, Rita o Heol y Gors, Cwmgors, gynt o Fferm Gellifawr. Priod hoff Gomer Wynne, mam annwyl Bethan ac Emyr, mam yng nghyfraith barchus Emyr John a Nia, mamgu gariadus Dafydd, Angharad, Osian a Gethin, chwaer dyner Irene a chwaer yng nghyfraith hoffus David, Ann a'r diweddar Sally, Tomos a Clive. Angladd ar Ddydd Gwener, Tachwedd 16eg. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Hermon, Brynaman am 11.30 y bore. Cleddir ei gweddillion ym mynwent Hen Garmel, Gwaun Cae Gurwen. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at Ffrindiau Ysbyty Dyffryn Aman drwy law Keith Morgan a Hywel Griffiths, Trefnwyr Angladdau, 40a Heol Cwmaman, Glanaman, Rhydaman SA18 1DJ.