South Wales Guardian - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Carmarthenshire

I'm looking for celebrations
Death Notice

Gwladys Valerie Davies

Published on 11/08/2021

DAVIES Gwladys Valerie (Brynferch) (Gwladys y Neuadd) Yn dawel ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 31 wedi cystudd byr, hunodd Gwladys, Fferm y Neuadd, Garnant, Rhydaman. Priod hoff y diweddar Douglas, mam gariadus Jane a Rhian, mam-yng-nghyfraith barchus Howell a Handel, mamgu ofalus Martin, Bethan, Eleri, Lisa-Siân ac Elin Mair, hen-famgu falch i unarddeg o orwyrion. Angladd ar ddydd Iau, Awst 19. Yn dilyn gwasanaeth teuluol ar yr aelwyd fe fydd y cynhebrwng yn gadael Fferm y Neuadd am 11.30 y bore ac yn teithio drwy'r Betws a Garnswllt am wasanaeth yn Amlosgfa Abertawe am 12.30 y prynhawn. Blodau'r teulu'n unig. Ymholiadau pellach i Hywel Griffiths a Keith Morgan, Trefnwyr Angladdau, 40a Heol Cwmaman, Glanaman, Rhydaman SA18 1DJ Ff01269 822179 neu 01269 593637.


Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.