South Wales Guardian - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Carmarthenshire

I'm looking for celebrations
Death Notice

Eirwen Evans

Published on 07/11/2018

EVANS Eirwen Yn dawel a di-boen ar ddydd Mercher, Hydref 31ain, ar ôl cystudd hir ac yng nghwmni ei theulu, hunodd Eirwen yn ei chartref, Nyth Newydd. Gweddw ffyddlon Islwyn (Evans the Chemist), chwaer annwyl iawn y diweddar Nancy Diana a Beryl, modryb arbennig i Ann, David a Martin a'i holl nithoedd a neiaint. Gwelir ei cholled yn fawr gan yr holl deulu. Angladd ar ddydd Iau, Tachwedd 8fed, gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Llanelli am 11.00 y bore. Dim blodau os gwelwch yn dda. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at 'Ward 9', Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE


Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.