Llangadog - Eisteddfod y Capeli

Daeth cynulleidfa gryno o wrandawyr a chefnogwyr brwd i Gapel Providence, ar nos Wener, 24ain o fis Chwefror, pan gynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Ddewi flynyddol eglwysi’r Annibynwyr yng nghylch Llangadog.

Eisteddfod ar gyfer y plant yn bennaf oedd hon eleni eto. Yn ol yr arfer, gwelwyd talentau amrywiol y plant a’r bobl ifainc wrth iddynt gystadlu’n frwd ac eiddgar am rai oriau. Y beimiaid eleni oedd: Eiry Jenkins, Castell Rhingyll (Adrodd a Llenyddiaeth), Dr Hywel Lewis, Castell Rhingyll, (Cerddoriaeth) a Mrs Marilyn ap Steffan, Llangadog (Arlunio a Llawysgrifen). Dewiswyd Mr John Lewis Ll.B., Penarth, fel Cadeirydd y noson a chafwyd ganddo anerchiad diddorol a geiriau addas am adeg ei fagwraeth yng Nghapel Providence ynghyd a rhodd ariannol hael tuag at gronfa’r Eisteddfod Roedd body n bresennol yn yr Eisteddfod yn dwyn atgofion iddo o’r adeg pan gychwynnodd y Parchg. T Alwyn Williams yr eisteddfod a chymhellodd y pwyllgor i ddal ati i’w chynnal i’r dyfodol.

Cyflwynwyd y noson a’r Cadeirydd gan Mrs Haulwen Booth, Cadeiorydd Pwyllgor yr Eisteddfod. Enillydd y darian i blant o dan 12 oed oedd Fflur Richards ac enillydd y darian i blant dros 12+ oed oedd Elen Fflur Davies ac fe’u cyflwynwyd iddynt ar ddiwedd y noson gan y beimiaid Adrodd a Cherddoriaeth. Dyma enwau gweddill yr enillwyr:

Uned dan 5 oed: Guto Price (1af), Gruff Jones, Calan, Thomas, Sion Jones, Erin Jones ac Ifan Dafydd (2ail).

Adrodd dan 5 oed: Guto Price (1af), Calan Thomas (2ail), Sion Jones (3ydd).

Unawd 6 a 7 oed: Iolo Dafydd, Iestyn Thomas, Sara Price a Cian Thomas.

Adrodd 6 a 7 oed: Iolo Dafydd, Cian Thomas, Sara Price a Iestyn Thomas.

Unawd 8, 9 a 10 oed: Trystan Davies, Fflur Richards, Guto Dafydd.

Adrodd 8, 9 a 10 oed: Fflur Richards, Catrin Price, Guto Dafydd.

Unawd 11, 12 a 13 oed: Elen Fflur Davies, Manon Roberts, Steffan Thomas.

Adrodd 11, 12 a 13 oed: Elen Fflur Davies, Gwenllian Jenkins a Manon Roberts, Steffan Thomas.

Adrodd 14+ oed: Aaron Hughes, Jack Davies, Ifan Williams.

Offeryn Cerdd dan 12 oed: Fflur Richards, Guto Dafydd, Osian Richards.

Offeryn Cerdd dros 12 oed: Carys Davies.

Emyn Don ar yr Organ dan 12 oed: Lois Williams.

Cydadrodd dan 12 oed: Parti Trystan, Parti Gwenllian.

Cydadrodd dros 12 oed: Parti Jack, Parti Elen Fflur.

Darllen Emyn ar y pryd o dan 8 oed: Cian Thomas, Iolo Dafydd, Sara Price.

Darllen Emyn ar y pryd o 8 i 12 oed: Guto Dafydd, Fflur Richards, Catrin Price.

Darllen Emyn ar y pryd dros 12 oed: Ifan Williams, Elen Fflur Davies a Carys Davies, Manon Roberts.

Parti Unsain: Parti Lois, Parti Ifan a Pharti Guto.

Parti’r Emyn Cyfoes: Parti Lois, Parti Guto, Parti Ifan.

Ateb 6 chwestiwn dan 12 oed: Gwenllian Jenkins.

Ateb 6 chwestiwn dros 12 oed: Ifan Williams.

Llenyddiaeth Oed Cynradd: Fflur Richards, Trystan Davies, Ioan Hughes.

Llenyddiaeth Oed Uwchradd: Elen Fflur Davies, Aaron Hughes.

Arlunio a Lliwio o dan 7 oed: Cian Thomas, Sara Price, Erin Jones.

Arlunio a Lliwio 7+ oed i 12 oed: Ioan Hughes, Catrin Price, Iolo Dafydd a Guto Dafydd.

Arlunio a Lliwio dros 12 oed: Jack Davies, Carys Davies ac Aaron Hughes, Elen Fflur Davies a Steffan Thomas.

Llawysgrifen o dan 7 oed: Sara Price, Cian Thomas, Iestyn Thomas, Gruff Jones a Sion Jones.

Llawysgrifen 7+ oed i 12 oed: Gwenllian Jenkins, Trystan Davies, Fflur Richards.

Llawysgrifen dros 12 oed: Elen Fflur Davies, Carys Davies, Jack Davies ac Aaron Hughes.

Stori a Sain: Aaron Hughes ac Ifan Williams, Gwenllian Jenkins ac Elen Fflur Davies, Carys Davies a Jack Davies.

Cystadlaethau’r Oedolion: Limrig: Mrs Eurwen Bowen.

Brawddeg gyda phob gair yn dechrau a’r llythyren ‘T’ – Parchg. K M Lintern.

Brawddeg o’r gair ‘Llangadog’ – Mrs Eurwen Bowen.

Arweiniwyd gweithgareddau’r noson gan Mrs Haulwen Booth, Miss Indeg Williams, Miss Carys Dyer a Miss Rachel Hughes a’r gyfeilyddes oedd Miss Sara Morgan. Rhannwyd y gwobrau ariannol allan gan Miss Nancy Davies a Miss Bethan Morgan a chadwyd sgor y marciau gan Mr Alun Williams a Mrs Sian Thomas.

Cyflwynwyd y diolchiadau i bawb gan gynnwys cadeirydd y noson, y rhai a fu’n paratoi’r plant yn yr Ysgol Sul a’r Gobeithlu, y rhai fu’n paratoi’r plant yn yr Ysgol Sul a’r Gobeithlu, y rhai fu’n gysylltiedig a threfniadau’r noson, gwragedd caredig Capel Providence am baratoi’r lluniaeth, y beirniaid ac aelodau’r pwyllgor gan Mrs Haulwen Booth.

Swyddogion Pwyllgor yr Eisteddfod yw’r rhai canlynol: Cadeirydd – Mrs Haulwen Booth, Trysorydd – Miss Nancy Davies, Ysgrifennydd – Mr D Wyn Williams.

click2find

About cookies

We want you to enjoy your visit to our website. That's why we use cookies to enhance your experience. By staying on our website you agree to our use of cookies. Find out more about the cookies we use.

I agree