Mae Adran yr Urdd Ysgol Rhys Prichard wedi bod yn brysur iawn yn ystod y flwyddyn. Dechreuwyd y flwyddyn gyda noson gymdeithasol o chwarae gemau bwrdd a chroesawu aelodau newydd. Mae gweithgareddau eraill y flwyddyn wedi bod yn ddiddorol ac amrywiol gan gynnwys aerobics gan Mrs Dawn Davies, bingo gan Mrs Helen Davies, Celf a chrefft gan Linda a Sarah o Fenter Bro Dinefwr, PC Howie Davies yn diddanu yr aelodau a Sioned Fflur, (swyddog Datblygu Myrddin).

I orffen y tymor cafwyd barti i fwynhau a dathlu blwyddyn lwyddiannus. Rydym yn lwcus yn Ysgol Rhys Prichard fod gennym ddigon o bobl sy'n fodlon ein helpu sef staff yr ysgol, ffrindiau, a rhieni'r plant. Diolch i chi gyd am ein helpu yn ystod y flwyddyn. Llongyfarchiadau i'r canlynol ar ei buddugoliaeth yng nghystadleuthau Celf a Chrefft yr Urdd, Cylch Blaenau Tywi: Dyma'r canlyniadau: Gwaith Luniadu 2D B2 ac iau: 1af Rhys Price; 2ail Elin Jones; 3ydd Alice Edwards. Pyped B2 ac iau: 1af Elin Jones; 2ail Rhys Price; 3ydd Eira Ghiani. Pyped B5 a 6: 1af Carys Jones; 2ail Cerys Jones. Pyped (grwp) B2 ac iau: 1af Bethany Adams ac Emily Forsyth; 2ail Catrin Manning ac Amelia Billingham; 3ydd Alice Edwards a Matilda Devlin. Graffeg Cyfrifiadurol B2 ac iau: 1af Alice Edwards; 2ail Rhys Price. Argraffu B5 a 6: 1af Polly Manning. Print du a gwyn B5 a 6: 3ydd Carys Jones. Print lliw B2 ac iau: 1af Elin Jones. Print lliw B5 a 6: 1af Carys Jones. Cyfres o brintiau lliw B5 a 6: 2ail Nia Price. Crochenwaith B5 a 6: 1af Polly Manning. Bemwaith B2 ac iau: 1af Rhys Price; 2ail Rose Wilkinson. Gwaith Creadigol (Tecstilau) B2 ac iau: 1af Amelia Billingham; 2ail Catrin Manning; 3ydd Alice Edwards.

Llongyfarchidau i'r canlynol o ysgol Rhys Prichard ar eu llwyddiant yn yr Eisteddfod gylch yn ddiweddar: Unawd llinynnol dan 12: 2ail Agatha Devlin; Llefaru Unigol Dysgwyr B5 a 6: 2ail Rebecca Davies. Deuawd B6 ac iau: 2ail Menna Rees a Louise Wood. Cafodd Teleri Hâf yr ail wobr yn yr Alaw werin unigol, unawd cerdd dant, a llefaru unigol. Ymgom y Dysgwyr: 1af Grwp Rebecca; 2ail Grwp Leon. Cafwyd y wobr gyntaf yn y Grwp Llefrau i Ddysgwyr a'r Gân Actol i ysgolion dros 100 o blant.

Llefaru Unigol B2 ac iau: 1af Alice Edwards. Llefaru Unigol B3 a 4: 1af William Jones.

Dymuniadau gorau i bawb o'r ysgol a fydd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Sir yn Nyffryn Aman.

Llongyfarchiadau i chi blant ar eich perfformiadau graenus a'ch holl waith caled. Diolch i'r hyfforddwyr, athrawon a rhieni am eu parodrwydd i helpu a chefnogi'r plant dros yr wythnosau diwethaf.