DRAMA - Gohuriwyd Noson o Ddramau Sioe Trap a oedd i'w gynnal yn Neuadd Llandyfan ar Dachwedd 9fed tan ddechrau'r flwyddyn newydd - dyddiad i'w gadarnhau.

SOAR - Mae un newid i rhaglen oedfaon mis Tachwedd. Ni fydd oedfa ar y Sul cynta o'r mis (Tachwedd 3ydd) am y byddwn yn ymuno ag oedfa Mudiad Ieuenctid Cristnogol yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman am 2.30 o'r gloch. Dyma drefn gweddill y mis (pob oedfa am 2 o'r gloch:10fed -y gweinidog yn pregethi; 17eg Gwyn Elfyn (Denzil, Pobol y Cwm gynt) 24ain Y Gweinidog.

Dymuniadau gorau am wellhad buan i Eric Jones Cysgod y Coed ac i Vernon Butt sydd newydd dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.