Bu Eisteddfod Y Tymbl (Medi 20, 2008) yn llwyddiant eleni eto, a diolchwn i'r cystadleuwyr a'r cefnogwyr oedd yn bresennol. Cawsom fwynhad o weld plant yr Ysgolion Cynradd lleol yn cael eu gwobrwyo yn adrannau'r Arlunio, Llawysgrifen, Barddoniaeth a Storiau. Yr wyth ysgol lleol fu wrthi oedd Llechyfedach, Tymbl, Llannon, Cross Hands, Penygroes, Gorslas, Cefneithin a Drefach. Mr Gareth Rees, Prifathro Ysgol Gynradd Y Tymbl fu'n gyfrifol am lywio'r gweithgareddau hyn.

Llywydd y Dydd oedd Dr Marianne Evans o Lanelli, brodorwraig o'r Tymbl, a fwynhaoedd ei hun gyda ni yn yr Eisteddfod. Diolch o galon iddi am ei rodd haelionus.

Bu seremoni'r Cadeirio yn effeithiol, ac estynnwn ein llongyfarchiadau i'r bardd buddugol, sef Parch Beti Wyn James, Caerfyddin. Cerdd ar y testun 'Gwychder' a gafwyd, ac allan o saith o gerddi, cafodd ganmoliaeth uchel gan y Beirniad Llen, y Dr Brifardd Hopwood o Langynnwr, Carfyrddin.

Yn bresennol gyda Beti, oedd Elin un o'r merched, ynghyd a Gladys a Walford Davies, ei rieni o Glydach. Y mae ein prifardd yn dod yn wreiddiol o Glydach, ac wedi codi i'r Weinidogaeth o Eglwys Hebron Clydach. Ar ol ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, aeth i Goleg yr Annibrynnwyr Cymraeg yn Aberystwyth, yna ei sefydlu yn Weinidog yn yr Eglwys Annibynnol Gymraeg yn y Barri. Ers rhai blynyddoedd bellach, y mae'n briod a Phillip, ac yn Weinidog yr Efengyl ar Eglwys Annibynnol Y Priordy yng Nghaefyrddin.

Dyma'r eildro i Beti ennill y Gadair yn Eisteddfod y Tymbl. Yn ystod y seremoni, cymerwyd ran gan y canlynol: Corn Gwlad, Mr Gareth Wyn Thomas ar y piano; Cyrchwyr, Catrin Rees, Anwen Evans a Gwynfor Jones; Cyfarch y bardd, Bethan Willams ac Emyr Wyn Thomas; Can y Cadeirio, Richard Thomas (Trysorydd yr Eisteddfod); Ceidwad y Cledd, Roy Evans; Meistr y ddefod, Parch Emyr Gwyn Evans, Cadeirydd y Pwyllgor.

Plant Ysgol y Tymbl o dan hyfforddiant athrawon yr Ysgol gyflawnodd y Ddawns Flodau, a hynny yn ddeheuig a phoffesyddol iawn. Diolch yn fawr i bawb am liwio a llywio'r seremoni.

Cyfeirir at ysgrifennydd newydd yr Eisteddfod sef Emyr Wyn Thomas, olyndd i Ken Lloyd, ac yn arbennig i'r holl Bwyllgor am eu gwaith tim i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod. Bu''r tim arferol wrthi yn ystod y dydd, a dymuna'r Pwyllgor ddiolch i bawb - yn stiwardiaid, arweinyddion llwyfan, cynorthwywyr. Gweinyddol, hyfforddwyr, ac i aelodau cangen Tymbl o Ferched y Wawr am ddarparu lluniaeth yn ystod y dydd.

Y Beirniaid oedd: Cerdd, Mr Berian Lewis, Cross Hands; Llefaru, Mr Dyfrig Davies, Llandeilo; Llen, Dr Mererid Hopwood, Caerfyrddin; Dawnsio Disgo, Emma Davies Jones, Pontiets; Cyfansoddiadau'r plant, Sian Elfyn Jones, Drefach; Arlunio a llawysgrifen, Ieuan Rhys, Rhydaman; Cyfeilydd, Mr Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre. Harddwyd y Neuadd gan 'Blodau'r Cwm'; diolch i staff y Neuadd a Chyngor Cymuned Llannon am eu parodrwydd bob amser.

Dymuna'r Pwyllgor gydnabod cefnogaeth ariannol Eglwys Bethania'r Tymbl, Ymddiriedolaeth John a Rhys Thomas James, Pantyfedwen, Menter Cwm Gwendraeth, Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cymuned Llannon, a holl Gwmniau Busnes a ffrindiau'r pentre am eu holl nawdd a chefnogaeth i'r Eisteddfod eleni.

Cerddoriaeth - Unawd B1.2 a than hynny: 1, Rhodri Davies, Hwlffordd; 2, Sioned Phillips, Blaenffos; 3, Sion Lloyd, Rosebush. Unawd B1.3 a 4: 1, Nia Lloyd, Rosebush; 2 a 3, Mared Owain. Unawd B1. 5 a 6: 1, Rhys Phillips, Casblaidd; 2, Ffion Ann, Maenclochog; 3, Elen Lois, Maenclochog. Unawb B1. 7 i 11: 1, Lowri Elen Jones, Llanbed; 2, Elgan Evans, Tregaron; 3, Sioned Haf, Llysyfran. Unawd 16 i 21 oed: 1, Glesni Euros, Brynaman; 2, Arwel Evans, Brynberian. Can Werin B1.11 ac iau: 1, Elgan Evans, Tregaron; 2, Caryl Medi Lewis, Maenclochog. Can Werin 17 a thos hynny: 1, Lowri Mair, Pontarddulais; 2, Laura Blundel, Crymych; 3, Geraint Rees, Llandyfaelog. Canu Emyn dros 60: 1, Vernon Maher, Saron; 2, Gwynfor Haries, Blaenannerch; 3, Eileen Evans, Y Tymbl. Unawd ar unrhyw offeryn cerdd 18 oed a than hynny: 1, Caryl Medi Lewis, Maenclochog; 2, Glesni Euros, Brynaman. Unawd allan o Sioe Gerdd: 1, Laura Blundel, Crymych; 2, Lowri Mair, Pontarddulais. Cenwch i'r yr Hen Ganiadau: 1, Gwyn Morris, Abertaifi; 2, Robert Jenkins, Abertaifi; 3, Gwynfor Harries, Blaenannerch. Her Unawd: 1, Gwyn Morris, Aberteifi; 2, Robert Jenkins, Aberteifi; Gydradd 3, Laura Blundel, Crymych a Hen Pugh, Llandeilo. Cystadleuydd mwya addawol yn yr adran Gerddoriaeth dan 21: Arwel Evans, Brynberian.

Llefaru - Llefaru B1. 2 a than hynny: 1, Sian Lloyd, Rosebush; 2, Sioned Ann, Blaenffod; 3, Rhodri Thomas, Hwlffordd. Llefaru B1. 3 a 4: 1, Nia Lloyd, Rosebush; 2, Ffion Gwaun, Abergwaun; 3, Rhydian Thomas, Hwlffordd. Llefaru B1. 5 a 6: 1, Ffion Ann, Maenclochog; 2, Cerian Haf, Cilian Aeron; 3, Rhys Phillips, Casblaidd. Llefaru B1. 7 i 11: 1, Steffan Griffiths, Llanddarog; 2, Caryl Medi Lewis, Maesclochog; 3, Teleri Medi, Ciliau Aeron. Llefaru 16 i 21 oed: 1, Glesni Euros, Brynaman; 2, Lowri Mair, Pontarddulais. Darllen o'r ysgrythur (Cynradd): 1, Angharad Williams, Y Tymbl; 2, Owain Williams, Y Tymbl. Llefaru darn o'r ysgrythur (Agored) 1, Glesni Euros, Brynaman; 2, Caryl Medi Lewis, Maenclochog. Llefaru dros 21: 1, Laura Blundel, Crymych; 2, Gwynfor Harries, Blaenannerch. Adroddiad Digri: 1, Glesni Euros, Brynaman. Cystadleuaeth Llefaru 2009 Cymdeithas Eisteddfod Cymru: 1, Lowri Mair, Pontarddulais.

Llen - Cystadleuaeth y Gadair: 1, Beti Wyn James, Caerfyrddin. Ysgrif: 1, T. W. Williams, Abergwaun. Teleneg: 1, Medi Vaughan Williams, Caernarfon; 1, J. Beynon Phillips, Caerfyrddin; 3, John Meurig Edwards, Aberhonddu. Englyn: 1, J. Beynon Phillips, Caerfyrddin. Brawddeg: 1, Carys Briddion, Tre'r Ddol; 2, Carys Briddion Tre'r Ddol; 4, T. W. Williams, Abergwaun. Limrig: 1, Carys Briddion, Tre'r ddol; 2 a 3, Dewi ap Rhobert, Talwrn, Ynys Mon. Emyn: 1, John Meurig Edwards, Aberhonddu; 2 a 3, Beryl Davies, Llanddewi brefu.

Cystadleuthau Ysgolion Cynradd - Barddoniaeth B1. 3 a 4: 1, Daniel Davies, Llechyfedach; 2, Daniel Jenkins, Llechyfedach; 3, Hawys Davies, Tymbl. Barddoniaeth B1 5 a 6: 1, Beca Thomas, Llechyfedach; 2, Steffan Price, Llechyfedach; 3, Shauna Morgan, Tymbl. Stori BB1 3 a 4: 1, Hannah Evans, Llannon; 2, Ifan Rhys Samuel, Tumbl; 3, Rhys Davies, Llechyfedach. Cymeradwyaeth: Sara Davies, Cross Hands. Stori B1 5 a 6: 1, Megan Parry, Penygroes; 2, Beca Thomas, Llechyfedach; 3, Steffan Rhys Davies, Llechyfedach a Elisedd Mai Howells, Llannon. Llawysgrifen B1 1 a 2: 1, Gwenllian Thomas, Tymbl; 2, Shanelees Griffiths, Tymbl; 3, Ethan Bale, Gorslas.

Cymeradwyaeth: Whitney Hardy, Tymbl; Sara Thomas, Gorslas; Bethany Lloyd, Drefach; Angharad Davies a Sophie Evans, Cross Hanes; Elizabeth Rogers, Sarah Thomas, Cerys Jane Sheridan, Penygroes. Llawysgrifen B1 3 a 4: 1, Llinos Rees, Tymbl; 2, Catrin Evans, Llechyfedach; 3, Leah Rose Fisher, Llechyfedach.

Cymeradwyaeth: Sian B1 4 Llannon; Alfred Ransome, Llannon; Cameron Smith King, Drefach; Indeg Crane, Drefach; Hawys Mills, Cross Hands; Lowri Jameson, Cross Hands; Rhydian Stephens, Llechyfedach; Daniel Salisbury, Llechyfedach. Llawysgrifen B1 5 a 6: 1, Olivia Thomas, Tymbl; 2, Jonathan Lloyd, Drefach; 3, Dion Wyn Lewis, Llechyfedach.

Cymeradwyaeth: Elisedd Howells, Sophie Mufray, Llannon: Shauna Morgan, Steffan Howard, Tymbl; Scott Jones, Beca Thomas, Britney Jayne McPherson, Llechyfedach. Arlunio Dosb Derbyn: 1, Lara Davies, Gorslas; 2, Alisha Davies, Tymbl; 3, Carys G., Penygroes.

Cymeradwyaeth: Aelun Bowell, Llechyfedach; Elli Harries, Llannon; Leon Williams, Cefneithin. Arlunion B1 1 a 2: 1, Tanith Coulson, Cross Hanes; 2, Sam Carter, Penygroes; 3, Avalon Tinnuche, Llannon.

Cymeradwyaeth: Drew Harries, Elin Harries, Gorslas; Alun Davies, Cross Hands; Laura Haggie, Georgia Williams, Penygroes. Arlunio B1 3 a 4: 1, Olivia a Keira, Tymbl; 2, Iestyn Jones, Tymbl; 3, Ryan Walters, Cefneithin.

Cymeradwyaeth: Hannah, Tymbl; Daniel Davies, Luke Place, Tony Harries, Ezra Tinnuche, Llechyfedach. Arlunio B1 5 a 6: 1, Angharad Williams, Tymbl; 2, Lorraine Jones, Tymbl; 3, Lowri Martin, Llannon.

Cymeradwyaeth: Hollie Harries, Tymbl; Steffan Price, Llechyfedach; Nathan Parry, Chelsea Free, Gorslas; Angharad Powell, Penygroes.