CAPEL - Y Sul nesaf bydd y Gweinidog yn pregethu am 10.30 o'r gloch a'r Ysgol Sul yn cyd redeg.

YSBYTY - Dymuniadau gorau i Audrey Morris a Dolly Robson, y ddwy yn Ysbyty Glangwili.

CYDYMDEIMLO - Dydd Gwener bu angladd Emlyn Jones yn y Capel Gorffwys, Betws ac yna amlosgfa Llanelli. Estynnir pob cydymdeimlad a'i wraig Margaret a'r teulu.

Hefyd estynnir cydymdeimlad a theulu Griff Evans, gynt o Saron, bu'r angladd yn y Capel dydd Mawrth, Ionawr 7fed, a'r claddu yn y fynwent.