South Wales Guardian - Memorials

Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Carmarthenshire

I'm looking for celebrations
Death Notice

Ivy Hopkins

Published on 13/03/2024

HOPKINS Ivy Yn dawel ddydd Sadwrn, 2ail o Fawrth yng Nghartref Glanmarlais, Llandybie hunodd Ivy, gynt o Heol y Garn, Garnswllt, Rhydaman. Gwraig gariadus y diweddar Marcus, mam annwyl Stephen, Rhian a Bethan, mam-yng-nghyfraith barchus Gillian a Gethin, mamgu dyner Stuart, Rebecca, Daniel, Lowri, Carys a Rachel a hen-famgu addfwyn. Angladd ddydd Llun, 18fed o Fawrth, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Noddfa, Garnswllt am 11.00 y bore. Cleddir ei gweddillion ym mynwent Capel Gerasim, Cwmcerdinen. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at "Sefydliad Prydeinig y Galon" drwy law Hywel Griffiths a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE.

Tributes

Create a tribute, leave a message or share a picture.