South Wales Guardian - Memorials
Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Carmarthenshire
I'm looking for celebrationsmargaret merle edwards
Published on 13/06/2018
Edwards Margaret Merle (née James) Yn sydyn ar ddydd Sadwrn 2 Mehefin, yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, bu farw Merle, gynt o Heol Derwen, Cross Hands, a Rhosaman, priod ffyddlon y diweddar John Elwyn, mam annwyl Wendy ac Elaine, mam-yng-nghyfraith garedig Mike a Hywel, mamgu a hen famgu gariadus i Owain, Angharad a Sion, Seren ac Ava; mamgu-yng-nghyfraith hoffus i Cerys ac Adam, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith addfwyn a thyner. Colled fawr i'w theulu a'i ffrindiau oll. Angladd ar ddydd Iau 14 Mehefin, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Annibynwyr Cwmllynfell, am 11 o'r gloch. Cleddir ym mynwent Cwmllynfell. Blodau'r teulu'n unig. Derbynnir cyfraniadau, os dymunir, tuag at gartref gofal Y Bwthyn, Llanelli (Sieciau yn daladwy i Gyngor Sir Caerfyrddin) trwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE.
Your tribute has been received.
Once your tribute has been approved by our moderators, it will appear on margaret merle edwards's notice.