South Wales Guardian - Memorials
Search Acknowledgements, Death Notices and In Memoriam within Carmarthenshire
I'm looking for celebrationsE RICHARDS
Published on 18/03/2015
RICHARDS Eluned (Madam Lynne, Contralto) Yn sydyn ar ddydd Iau, Mawrth 5ed yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, Eluned o Heol Pontarddulais, Tycroes, Rhydaman. Priod hoff y diweddar Bryn, mam a llys-fam annwyl Susan, Brian a'r ddiweddar Mair, Mam 'Tycroes' gariadus Andrew a Melanie, Sharon a Philip a Julie a'r gorwyrion Brittany, Caitlin, Jake, Abigail a Sara, mam yng nghyfraith barchus Elfryn a'r diweddar Eric a Jean, chwaer ffyddlon, llys-famgu dyner a ffrind hawddgar. Angladd ar ddydd Gwener, Mawrth 20fed, gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Moreia, Tycroes am 12.45 y prynhawn, ac oddi yno i Amlosgfa Llanelli erbyn 2.00 y prynhawn. Blodau'r teulu'n unig. Rhoddion, os dymunir, tuag at Ambiwlans Awyr Cymru drwy law Hywel Griffiths a'i Feibion, Trefnwyr Angladdau, Bwtrimawr, 39 Heol y Betws, Betws, Rhydaman SA18 2HE.
Your tribute has been received.
Once your tribute has been approved by our moderators, it will appear on E RICHARDS's notice.